Showing posts with label cymraeg. Show all posts
Showing posts with label cymraeg. Show all posts

7 Feb 2011

Yr Abadas

Mae Cwmni Cynhyrchu Dinamo yn falch iawn o gyhoeddi’r cyd-gynhyrchiad cyntaf rhwng S4C, RTE a CBeebies ar gyfer sioe feithrin wreiddiol, Yr Abadas

Dysgu iaith wrth gynnig adloniant yw nod y gyfres hon, sy’n cyfuno lluniau byw ac animeiddio.

Yn ogystal â llwyddo i dynnu’r partneriaid yma ynghyd, rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau bydd y gyfres yn cael ei lansio ar y cyd fis Hydref 2011.

Yn ogystal â’r 3 partner yma, rydyn hefyd wedi rhag-werthu’r gyfres i BBC Alba. O ganlyniad, bydd gan wylwyr gwledydd Prydain y dewis o wylio’r gyfres yn Gymraeg, Saesneg neu Gaeleg a hynny ar yr un diwrnod pe dymunent!

31 Jan 2011

Rastamouse

Wedi ei seilio ar gasgliad o lyfrau gan Genevieve Dexter a Michael De Souza, y gyfres ddiweddaraf i ddod o stabl Dinamo yw Rastamouse.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cwmni ymgymerid â proseict stop frame. Roedden yn eithriadol o falch o gael ennill y comisiwn i animeiddio’r gyfres gan y cynhyrchwyr 3 stones media 18 mis yn ôl ac ar ben ein digon yn ei weld yn cael ei lansio ar CBeebies yn ddiweddar.

25 Jan 2011

Heulwen a Lleu

Yn dilyn comisiwn diweddar gan S4C o’r gyfres feithrin, Heulwen a Lleu (26 x 7’), rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gwerthu’r gyfres i nifer o ddarlledwyr Rhyngwladol.

Bellach, ‘dan ei henw Saesneg, Soli & Mo’s nature show, rydym wedi arwyddo cytundebau gyda CiTV ac RTE a sianel blant y darlledwr Arabaidd, Al Jazeera.

Cyfres natur sy’n cyfuno animeiddio a lluniau archif hynod Cwmni Aden yw Heulwen a Lleu. Llywir pob pennod gan Heulwen Haul a Lleu Lleuad

Mae Heulwen a Lleu’n ffrindiau pennaf ac wrth eu bodd cyfarfod am sgwrs adeg machlud a gwawrio.
Pan mae’r haul yn tywynnu yn yr awyr a’r lleuad yn goleuo’r nos, mae Heulwen a Lleu, yn eu tro yn gwylio’r anifeiliaid sy’n byw oddi tanynt. Wrth wylio, maent yn dysgu a rhyfeddu, yn chwerthin ac yn synnu ar yr hyn sy’n digwydd ym myd yr anifeiliaid.

Dyma gyfres adloniant syml ac annwyl sy’n cyfuno animeiddio a lluniau archif i gyflwyno anifeiliaid a’u natur ddigri, ddiddorol ac anarferol i blant bach.

20 Jun 2010

Projects on CBBC web portal

Yn dilyn lansio gwefan newydd CBBC, My Toons, sy’n gartre i animeiddiadau byr , rydym yn falch o gyhoeddi fod y BBC wedi trwyddedu 3 pennod o The Heavy Heavy Monster Show a Best Present Ever.

Cymerwch olwg ar y gwaith ar www.bbc.co.uk/mytoons

Mae Best Present Ever hefyd wedi ei ddewis ar gyfer dangosiad yng Ngŵyl Glastonbury. Llongyfarchiadau i’r awdur, cynhyrchydd a phrif animeiddwraig y ffilm, Krystal Georgiou!

16 Jun 2010

Dinamo XL

Wedi hir aros, rydym wedi symud i’n stiwdio newydd yn Nhrefforest, ar gyrion Caerdydd.

Mae’r adeilad yn anferth sy’n golygu bod digon o le i’r cwmni dyfu.

20 May 2010

Rastamouse in the House!

Bellach, nid Cwmni effeithiau, 2D a GGI yn unig yw Dinamo. Rydym bellach, yn sgil cychwyn gwaith ar Rastamouse, wedi agor adran ‘stop frame’.

Mae Rastamouse wedi ei seilio ar lyfrau hyfryd Michael De Souza a Genevieve Webster ac yn gynhyrchiad Three Stones Media ar gyfer CBeebies.