Yn dilyn comisiwn diweddar gan S4C o’r gyfres feithrin, Heulwen a Lleu (26 x 7’), rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gwerthu’r gyfres i nifer o ddarlledwyr Rhyngwladol.
Bellach, ‘dan ei henw Saesneg, Soli & Mo’s nature show, rydym wedi arwyddo cytundebau gyda CiTV ac RTE a sianel blant y darlledwr Arabaidd, Al Jazeera.
Cyfres natur sy’n cyfuno animeiddio a lluniau archif hynod Cwmni Aden yw Heulwen a Lleu. Llywir pob pennod gan Heulwen Haul a Lleu Lleuad
Mae Heulwen a Lleu’n ffrindiau pennaf ac wrth eu bodd cyfarfod am sgwrs adeg machlud a gwawrio.
Pan mae’r haul yn tywynnu yn yr awyr a’r lleuad yn goleuo’r nos, mae Heulwen a Lleu, yn eu tro yn gwylio’r anifeiliaid sy’n byw oddi tanynt. Wrth wylio, maent yn dysgu a rhyfeddu, yn chwerthin ac yn synnu ar yr hyn sy’n digwydd ym myd yr anifeiliaid.
Dyma gyfres adloniant syml ac annwyl sy’n cyfuno animeiddio a lluniau archif i gyflwyno anifeiliaid a’u natur ddigri, ddiddorol ac anarferol i blant bach.
No comments:
Post a Comment
Note: only a member of this blog may post a comment.